Dywed Hunter fod mynychu’r grŵp cymorth yng Nghanolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr wedi helpu’n fawr.
“Maen nhw wedi fy helpu i lawer hefyd, ac rydw i hefyd yn gofalu am fy mam a’m tad oherwydd mae arthritis gan y ddau ohonyn nhw.
“Dydw i ddim yn byw gyda fy chwaer fach bellach. Mae hi wedi symud i ofal preswyl oherwydd difrifoldeb ei hawtistiaeth, ac fe wnaeth y grŵp gofalwyr fy helpu drwy hynny. Dydw i ddim yn meddwl y byddwn i wedi ymdopi cystal oni bai amdanyn nhw.”
Mae Hunter yn credu bod mwy o gymorth y gellid ei gynnig i ofalwyr di-dâl, yn enwedig i bobl ifanc.
Dywed bod angen sylw i ddau beth, a’r cyntaf yw “ymwybyddiaeth, oherwydd dydy pobl ddim yn deall beth rydyn ni’n mynd drwyddo.
“Mae rhai ohonom yn deffro am bump o’r gloch y bore. Mae’n rhaid i rai helpu rhieni neu frodyr a chwiorydd i wisgo, rhoi eu meddyginiaeth iddyn nhw, eu bwydo neu eu golchi cyn ysgol.
“Yna mae pobl yn gwneud hwyl am eich pen oherwydd eich bod ychydig yn fwy blinedig neu’n hwyr, ond dydyn nhw ddim yn gwybod beth rydych chi wedi bod yn ei wneud.
“Y peth arall yw darparu mwy o gymorth i’r person rydyn ni’n gofalu amdano fel nad yw’r baich mor drwm arnon ni. Pe bai mwy o gymorth i’n brodyr a’n chwiorydd neu ein rhieni, fyddai dim rhaid i ni wneud cymaint o dasgau sy’n effeithio ar ein haddysg.
“Mae’n effeithio ar eich bywyd cymdeithasol, ar y ffordd rydych chi’n tyfu i fyny ac ar eich bywyd fel oedolyn hefyd.
“Rwy’n meddwl mai’r peth pwysicaf yw rhoi seibiant i ofalwyr ifanc, yn enwedig yn ystod oriau ysgol, oherwydd mae rhai gofalwyr ifanc wedi methu mynd i’r coleg gan fod yn rhaid iddyn nhw ofalu am eu teulu. Dylai fod rhywbeth yn ei le yn ystod oriau ysgol i helpu gofalwyr ifanc.”
Mae’r elusen Gofal Cymru yn dweud bod rhai agweddau cadarnhaol yn y strategaeth newydd, ond nad ydi’r llywodraeth wedi mynd yn ddigon pell.
“Mae rhai elfennau i’w croesawu yn y strategaeth newydd, yn enwedig o ran mynediad at ofal seibiant a’r awydd i weld mwy o ofalwyr yn cael cymorth,” meddai Rob Simkins o’r elusen.
Ond mae’n siomedig bod addewid maniffesto Plaid Cymru i leihau amseroedd aros ar gyfer asesiadau “hanfodol” wedi’i hepgor.
Mae siom hefyd “bod yr ymrwymiad maniffesto i sicrhau bod asesiadau o anghenion gofalwyr yn cael eu cwblhau o fewn 28 diwrnod ar goll o’r strategaeth”.
Mae’r cymorth sy’n dilyn asesiad, meddai, yn gallu gwneud gwahaniaeth enfawr i ofalwyr di-dâl, sydd yn aml yn cael eu “gwthio allan o waith ac yn methu dal ati mewn swydd”.
“Yr hyn sy’n wirioneddol bwysig i ni yw sicrhau bod bywydau gofalwyr di-dâl yn well,” ychwanegodd.
“Nid ydym wedi ein darbwyllo y bydd y strategaeth hon yn mynd cymaint ag yr hoffem iddi fynd, nac ychwaith ei bod yn adlewyrchu’r uchelgais oedd gan y llywodraeth cyn yr etholiad.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi ymgysylltu’n helaeth ag ystod eang o grwpiau gofal cymdeithasol, a bydd y strategaeth newydd yn helpu sicrhau cydnabyddiaeth a chymorth i ofalwyr di-dâl.
“Rydym yn ystyried a oes angen newidiadau i gryfhau’r cymorth i ofalwyr, gan gynnwys gosod amserlen ar gyfer cwblhau asesiadau o anghenion gofalwyr.”
Sign up for your daily dose of UnWoKe News | Privacy guaranteed | Unsubscribe at any time.







