sin-james-yn-canfod-trysorau-coll-yng-nghwpwrdd-ei-modryb-dwynwen
Home / Wales / Sin James yn canfod trysorau coll yng nghwpwrdd ei modryb Dwynwen

Sin James yn canfod trysorau coll yng nghwpwrdd ei modryb Dwynwen

Sin James yn canfod trysorau coll yng nghwpwrdd ei modryb Dwynwen


Weithiau mae’n werth edrych ymhob twll a chornel o unrhyw ddrôr neu gwpwrdd, does wybod beth ddaw i’r fei.

Dyna’n union wnaeth y gantores Siân James un diwrnod tra’n clirio un o gypyrddau ei modryb, Dwynwen Jones.

Roedd Dwynwen ,gynt o’r Parc, Llangadfan yn gymeriad cwbl unigryw ac yn un a fu’n allweddol i ffyniant diwylliannol ardal Dyffryn Banw ar hyd ei hoes.

Roedd hi’n gerddor, yn arbenigwr cerdd dant, yn llenor ac yn warchodwr diwylliant.

Mae’r hyn y gwnaeth Siân ddarganfod yn y cwpwrdd derw wedi ei hysgogi i ysgrifennu llyfr sydd ar fin cael ei gyhoeddi.

Enw’r llyfr yw Cwpwrdd Derw Dwynwen, ac mae’n cyfeirio at hen alawon a chaneuon oedd bron â mynd yn angof.

Dywedodd Siân ar raglen Llwyfan, Radio Cymru:

“Fyny yn yr hen dŷ lle oedd Dwynwen yn byw, mae gen i gof clir nôl yn 2011 yn mynd fyny staer a reit yn y top roedd ganddi hen gwpwrdd mawr dderw. Roedd o’n gorlifo efo hen lyfrau a phapurau.

“Nid papurau o’r genhedlaeth ddiwethaf neu cyn hynny, ond rhai yn mynd ‘nôl i’r 19eg ganrif.

“Hen lyfrau nodiadau yn llawn hen ganeuon sydd bellach wedi mynd yn angof, felly dwi wedi bod yn cofnodi’r rheiny.

“Yn ystod y cofnodi fe aeth Dwynwen yn sâl ac fe gollon ni hi, felly roedd y gwaith hyd yn oed mwy pwysig yn fy nghalon i na chynt,” meddai.

Wrth i Siân fynd drwy’r droriau a’r mynydd o bapurau, roedd hi wedi rhyfeddu gyda’r hyn y daeth ar eu traws.

“Doeddwn i’m yn gallu coelio be’ weles i. Yno oedd y llyfrau i gyd. Llyfrau nodiadau a hen hen lyfrau. Rhan fwyaf ohonyn nhw yn llyfrau o eiriau,” meddai.

Roedd Dwynwen Jones wedi dylanwadu ar gymaint o bobl yn ardal Dyffryn Banw. Yn ogystal â sôn am yr hen ganeuon roedd Siân yn teimlo bod angen cynnwys tipyn o’i modryb yn y llyfr hefyd a bod angen i hynny fod yn “berffaith”.

Ychwanegodd: “Un o’r pethau o’n i’n arfer poeni amdano, am fy mod i’n trin a thrafod person oedd mor bwysig i fi ac wedi dylanwadu cymaint arna i ers yn blentyn, o’n i’n meddwl, mae’n rhaid i hwn fod yn berffaith achos nid jyst fi oedd yn caru Dwynwen, heb sôn am ei theulu, roedd yr ardal gyfan yn caru Dwynwen cymaint.”

Aeth Siân yn ei blaen i ddisgrifio’r fraint o allu casglu’r holl ganeuon a’u cofnodi, gan gofio’n ôl at gyfoeth perfformio a barddoni’r ardal.

“Yn yr ardal yma, mae’r hen gymeriadau – doedden nhw ddim yn hen ar y pryd – a bod yr ardal yma mor fywiog o ran cerddoriaeth a barddoni a’r hen draddodiadau yma sydd wedi hen hen fynd, a bod y caneuon yma i gyd wedi tarddu o’r profiadau a’r diwylliant yna.”

Yn ogystal â’r caneuon coll, roedd ambell i drysor arall wedi’i ddarganfod yn y cwpwrdd hefyd.

Yno roedd hen lyfr lledr yn llawn nodiadau wedi’i ysgrifennu mewn ffont gwahanol iawn i’r arfer.

Wedi ychydig o ymchwil a holi’r canwr gwerin a’r baledwr, Arfon Gwilym, daeth Siân i’r casgliad mai “llyfr pricio” oedd hwn, llyfr oedd yn gyffredin yn y 19eg ganrif i gofnodi cerddoriaeth o bob math.

Roedd yr ysgrifen hefyd yn debyg i ‘Goelbren y Beirdd’ sef wyddor y gwnaeth Iolo Morgannwg ei dyfeisio ar ddiwedd y 18fed ganrif.

Un peth oedd yn sefyll allan i Siân yn y llyfr nodiadau oedd alawon gydag enwau llefydd gwahanol arno.

“Roedd ‘na Garll Beibio, Llangadfan. Do’n i erioed wedi clywed amdanyn nhw ac erioed wedi clywed yr alaw chwaith,” meddai.

Wrth ddisgrifio’r ysgrifen hefyd roedd Siân wedi’i chyfareddu.

“Mae’n hardd, mae o fel rhywbeth allan o Lord of the Rings i ddeud y gwir. Dwi ddim yn siŵr os oes ‘na lyfrau tebyg mewn llefydd eraill ond mi fase’n ddiddorol iawn clywed gan bobl os oes ganddyn nhw lyfrau pricio,” meddai.

Wedi misoedd o gasglu ac ysgrifennu, mae Siân yn falch o fod wedi trefnu’r trysorau fewn i’r gyfrol ac yn ddiolchgar i waith celf Elin Mai Roberts ar ddechrau pob pennod sy’n dod a’r cyfan yn weladwy.

Mae Cwpwrdd Derw Dwynwen gan Siân James yn cael ei gyhoeddi 20 Tachwedd, gyda noson arbennig yn Llanerfyl.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy NowtsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Sign up for your daily dose of UnWoKe News | Privacy guaranteed | Unsubscribe at any time.

Tagged:
0 0 votes
Article Rating
Subscribe
Notify of
0 Comments
Oldest
Newest Most Voted
Secret Link
0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x