‘cefnogaeth-pobl-machynlleth-yn-allweddol’-i-lwyddiant-gof-o-bowys
Home / Wales / ‘Cefnogaeth pobl Machynlleth yn allweddol’ i lwyddiant gof o Bowys

‘Cefnogaeth pobl Machynlleth yn allweddol’ i lwyddiant gof o Bowys

‘Cefnogaeth pobl Machynlleth yn allweddol’ i lwyddiant gof o Bowys


Ar ôl cwblhau gradd mewn cerflunwaith celfyddyd gain yng Nghaerfaddon, datblygodd Spike ddiddordeb mewn gofaint.

Roedd ganddi ddiddordeb mewn gweithio gyda metel eisoes, ond dywedodd nad oedd wedi ystyried bod yn of fel gyrfa nes iddi fod ar gwrs penwythnos yn ardal Machynlleth.

“Roedd gen i syniad penodol iawn o sut beth oedd gof arian – rhaid bod yn fawr ac yn gryf, gyda barf, a gweithio gyda cheffylau.

“Ond fe wnaeth y cwrs newid fy syniadau’n llwyr. Roeddwn i wrth fy modd yn gweithio gyda thân, yn cael fy nwylo’n fudr ac yn gallu trawsnewid darn o fetel yn rhywbeth hollol wahanol.”

Aeth ymlaen i gwblhau cwrs llawn amser yn Henffordd, cyn cael prentisiaeth gyda chwmni yng Nghroesoswallt.

Dywedodd mai un o’r gwersi pwysicaf a ddysgodd oedd mai techneg sy’n bwysig yn y grefft, yn hytrach na chryfder corfforol.

“Mae llawer o bobl yn meddwl bod rhaid cael cryfder mawr i wneud y gwaith yma, ond mae’n ymwneud llawer mwy â gwybod sut i weithio gyda’r metel.

“Dyna un o’r pethau dwi’n ceisio’i gyfleu wrth addysgu eraill.”

Dywedodd Spike fod y gefnogaeth a gafodd gan bobl Machynlleth yn y dyddiau cynnar wedi gwneud gwahaniaeth mawr.

“Roedd pobl leol yn fy nghefnogi ac yn credu ynof i. Roeddwn i’n eistedd ym marchnad Machynlleth gyda fy mhoceri tân a’m canwyllbrennau, yn gobeithio y byddai rhywun yn eu prynu.

“Mae’n anhygoel meddwl pa mor bell mae’r busnes wedi dod ers hynny.”

Mae’n dweud bod canolbarth Cymru wedi dod yn gartref iddi ers iddi symud i’r ardal.

“Pan ddes i yma am y tro cyntaf, roedd pobl mor groesawgar. Roeddwn i wedi wynebu cryn dipyn o ragfarn mewn mannau eraill, ond yma roedd y teimlad o gymuned yn gryf iawn.

“Dwi ddim wedi fy ngeni yma, ond mae’r ardal yn teimlo fel cartref i mi. Dwi’n teimlo’n rhan o ganolbarth Cymru.”

Mae Spike bellach yn byw gyferbyn â’i gweithdy yn Llanbrynmair, ac yn dweud ei bod yn mwynhau’r cyfle i gerdded i’r gwaith bob bore a dechrau’r diwrnod wrth gynnau’r tân yn yr efail.

“Mae’n ffordd hyfryd o fyw. Dwi’n cyrraedd y gweithdy, yn cynnau’r tân ac yn penderfynu pa gomisiwn dwi’n mynd i weithio arno’r diwrnod hwnnw.

“Pan fyddwch chi’n dod o hyd i rywbeth rydych chi’n ei garu, dydy e ddim yn teimlo fel gwaith.”

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Sign up for your daily dose of UnWoKe News | Privacy guaranteed | Unsubscribe at any time.

Tagged:
0 0 votes
Article Rating
Subscribe
Notify of
0 Comments
Oldest
Newest Most Voted
Secret Link
0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x