codi-arian-ar-gyfer-treialon-cn-defaid-ym-mn-‘yn-bendant-yn-her’
Home / Wales / Codi arian ar gyfer treialon cn defaid ym Mn ‘yn bendant yn her’

Codi arian ar gyfer treialon cn defaid ym Mn ‘yn bendant yn her’

Codi arian ar gyfer treialon cn defaid ym Mn ‘yn bendant yn her’


Treialon cwn defaid

Disgrifiad o’r llun,

Mae Iona Owen a Dewi Roberts wedi bod yn helpu codi arian ar gyfer y digwyddiad

GanHarri Evans

BBC Cymru Fyw

Bydd treialon cŵn defaid cenedlaethol Cymru yn cael eu cynnal ar Ynys Môn y flwyddyn nesaf ac mae’r trefnwyr yn cydnabod fod y gwaith codi arian yn “her”.

Pwrpas yr achlysur ym mis Awst fydd dewis tîm i gynrychioli Cymru yn y treialon cenedlaethol a fydd yn digwydd ym mis Medi.

Bydd angen codi “swm sylweddol” o arian dros yr wythnosau nesaf i allu cynnal y treialon, a hynny mewn cyfnod pan mae’r ynys wedi bod yn gartref i sawl digwyddiad mawr.

Er yr heriau, dywedodd Dewi Roberts, Cadeirydd Pwyllgor Treialon Cŵn Defaid Cenedlaethol Cymru 2027, ei fod yn hyderus o gyrraedd y nod.

Mewn cyfweliad ar raglen Post Prynhawn, dywedodd Mr Roberts fod ffermwyr yr ynys yn “ymroddgar i’n cŵn defaid”.

Gyda’r Sioe Frenhinol hefyd yn cael ei gynnal ar yr ynys yn 2027, y cynllun gwreiddiol oedd cynnal y treialon ym Mhen Llŷn, meddai.

Ond ar ôl newid hwyr, mae’r trefnwyr yn gorfod codi’r arian “yn hanner yr amser arferol”.

“Mae hi bendant yn her, ‘dan ni ddim isio codi arian mawr, mawr – ond mae’n dipyn o arian,” meddai wrth raglen Post Prynhawn.

“Gang bach yda’ ni a ‘dan ni reit brysur ond ‘dan ni’n cael cefnogaeth a ‘dan ni’n reit hapus wnawn ni gyrraedd y nod ac mae hel sylweddol wedi bod yn ddiweddar.”

‘Mae bob ffermwr da hefo ci’

Er yr holl ddatblygiadau technolegol sydd wedi bod yn y byd amaeth, mae cŵn defaid yn parhau i fod yn gyfeillion gwerthfawr i ffermwyr, meddai Mr Roberts.

“Wnes i weld Jeremy Clarkson yn trio defnyddio drôn i hel ei ddefaid a brofodd hynna fedrwch chi ddim gwneud hebddyn nhw,” meddai.

“Mae bob ffermwr da hefo ci, os nad dau neu dri, a fedra’ nhw ddim gwneud heb un.

“Mae’r prisiau mae cŵn defaid yn mynd am yn profi hynna. Fedra’ nhw ddim gwneud heb gŵn defaid.

“Dim ots pa mor dechnegol ewch chi, anifail ydi anifail ac mae angen anifail i reoli nhw weithiau.”

Logo treialon cwn defaid cenedlaethol CymruFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar safle rhwng Dulas a Phensarn

Bydd y treialon yn cael eu cynnal ar ochr ddwyreiniol yr ynys, ar safle rhwng Dulas a Phensarn, yn ôl ysgrifennydd y digwyddiad, Iona Owen.

Mae ei gŵr, Arwel Lloyd Owen, wedi cystadlu dros Gymru yn y treialon cenedlaethol ac mae hithau hefyd yn cystadlu.

“Dwi ‘di bod yn paratoi bob penwythnos dros yr haf a rŵan bydd o’n bob penwythnos dros y gaeaf,” meddai.

“Mae wedi bod yn ail fywyd i fi a dwi’n edrych ymlaen yn arw.”

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Sign up for your daily dose of UnWoKe News | Privacy guaranteed | Unsubscribe at any time.

Tagged:
0 0 votes
Article Rating
Subscribe
Notify of
0 Comments
Oldest
Newest Most Voted
Secret Link
0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x