
Y ddwy ‘Hen Fenyw Fach Cydweli’ – Sue Morgan a Peggy Davies
GanAnna George
BBC Cymru Fyw
‘Hen fenyw fach Cydweli, yn gwerthu losin du, yn rhifo deg am ddimau, ond unarddeg i mi… wel dyna’r newydd gorau ddaeth i mi…’
Dyma un o hwiangerddi fwyaf cyfarwydd yr iaith Gymraeg, ac am 30 o flynyddoedd mae Peggy Davies wedi gwasanaethu tref Cydweli yn Sir Gaerfyrddin fel ‘Hen Fenyw Fach Cydweli’.
O gyfarch ymwelwyr â chastell Cydweli, i fynd o amgylch ysgolion yr ardal i ganu’r gân gyda’r plant, i werthu losin du a phice ar y maen – mae’n ddiwedd cyfnod i Peggy a phobl Cydweli.
“Mae wedi bod yn 30 o flynyddoedd hapus iawn i fi achos o’n i’n mwynhau be’ o’n i’n ‘neud yn fawr iawn a chyfarfod cymaint o bobl so oedd e ddim yn waith caled o gwbl, oedd e’n worthwhile os wedon nhw,” dywedodd Peggy ar raglen Bore Cothi, Radio Cymru.
Er y tristwch na fydd Peggy’n parhau fel ‘Hen Fenyw Fach Cydweli’ a’i basged yn llawn o losin du, y newydd gorau a ddaeth i bobl yr ardal yw bod y rôl yn parhau, a bod Sue Morgan o Fynydd-y-Garreg wedi dechrau ar ei swydd newydd.
Dywedodd Sue: “Fi jest yn gobeithio y bydda i’n gwneud Peggy’n prowd ac y gwna i bobl Cydweli yn prowd hefyd.”
Cadw chwedl ‘Hen Fenyw Fach Cydweli’ yn fyw
A hithau wedi gwasanaethu cymuned Cydweli a Mynydd-y-Garreg am dros 30 mlynedd a chefnogi digwyddiadau cymunedol ac elusennol, mae cadw chwedl ‘Hen Fenyw Fach Cydweli’ sydd wedi ei hanfarwoli’n yr hiwangerdd boblogaidd “wedi bod yn fraint” i Peggy.
Ac mae gwisgo’r wisg Gymreig draddodiadol wedi bod yn rhan fawr o’r hwyl wrth gamu i gymeriad yr hen fenyw fach, er ei bod yn cyfaddef ei bod wedi cymryd at y rôl yn naturiol iawn.
Eglurodd Peggy: “O’n i wedi gwisgo lan ac wedi edrych mewn i hanes y stori ‘ma ac wrth gwrs unwaith o’n i’n rhoi y wisg arno, o’n i’n wingo fe y rhan fwyaf o’r amser.
“O’n i’n trial dweud y stori ac os oedd plant yr ysgol ‘da fi bydde ni’n canu wrth gwrs neu ambell waith bydde rhai pobl yn gofyn i fi ganu ac o’n i’n ‘neud fy ngore i ganu fe ‘ta beth.”

Castell Cydweli yw ‘cartref’ Hen Fenyw Fach Cydweli. Sue Morgan, Peggy Davies a Laura Jones – Maer Cydweli – yn y castell
Cartref yr Hen Fenyw Fach yw Castell Cydweli, ac yn ôl Peggy does unman yn debyg:
“Mae’n glamp o gastell – a’r rhan fwyaf ohono fe yno o hyd, mae’n gestyll hyfryd iawn a golygfa dda o’r castell hefyd.”
Sut mae Peggy’n teimlo ei bod yn trosglwyddo’r awenau i Sue Morgan, un arall o’r ardal?
“Fi mor falch bod Sue wedi cymryd e drosodd achos bydd Sue yn ‘neud e yn iawn ac mae diddordeb ‘da hi yn yr hanes a phopeth ynglyn â Hen Fenyw Fach, ac mae digon o hyder ac egni yna i ‘neud y jobyn yn go-iawn.
“Mae’n bwysig bod e’n cael ei gario ‘mlaen fel hanes Cydweli.”

Trosglwyddo awenau ‘Hen Fenyw Fach’ – Sue Morgan, Peggy Davies a Laura Jones – Maer Cydweli – yn y castell
Yr ‘Hen Fenyw Fach Cydweli’ newydd yn gwerthu losin du, canu… a jyglo
Mae Sue wedi cychwyn ar y gwaith ers rhai wythnosau ac ar ei diwrnod cyntaf yn ei swydd fel ‘Hen Fenyw Fach Cydweli’, roedd yn rhaid canu’r gân, a hynny yng nghwmni Peggy.
Eglurodd: “Fues i gyda Peggy a Laura Jones, Maer Cydweli, lan yn y castell a gathon ni gân fach.
“Fe wedes i wrth Peggy bo’ fi ddim yn gadael y castell nes fod y tair ohonon ni’n canu ‘Hen fenyw fach’ yn Castell Cydweli – yn ein cartref ni – ac oedd yr acwstig yn absolutely fabulous.”

Mae’r ‘Hen Fenyw Fach Cydweli’ yma yn gallu jyglo hefyd
Ychwanegodd: “Fi’n thrilled. Alla i ddim ond dweud diolch yn fawr i Peggy – mae 30 o flynydde yn y swydd yn phenomenal.
“Mae shwt ffydd yn Peggy yndda i – fi jest yn gobeithio y bydda i’n gwneud Peggy yn prowd ac y gwna i bobl Cydweli yn prowd hefyd.”
Mae Sue hefyd wedi bod yng Nghanolfan Tywysoges Gwenllian – hwb cymunedol yn y dref, lle cafodd ‘Hen Fenyw Fach Cydweli’ groeso cynnes gan y plant.
“Bues i’n canu gyda nhw a jyglan. Mae pawb wedi rhoi shwt groeso i fi,” dywedodd.

Maer Cydweli – Laura Jones, Peggy Davies a Sue Morgan gyda cherflun o’r Dywysoges Gwenllian yng Nghastell Cydweli
Fel mae pawb sy’n gyfarwydd â’r hwiangerdd yn ei wybod – gwerthu ‘losin du’ mae Hen Fenyw Fach Cydweli, ond wrth i Peggy ymgymryd â’i rôl newydd – bydd ganddi lawer mwy na losin du yn ei basged.
Eglurodd: “Mae’r amser wedi newid – does dim lot o blant y dyddiau hyn yn hoffi licris, sef y losin du. Ond ma’ ‘da fi losin du yn y fasged, pice ar y mân i’r twristiaid a siocled.
“Mae’r gath ddu hefyd yn y fasged gyda fi ac mae’r bennill ‘da fi.
“Pan o’n i mas gyda’r plant yng Nghanolfan Tywysgoes Gwenllian ro’n i’n rhoi book mark a’r bennill yn lle rhoi losin achos ‘sa i moyn i’r deintydd i roi stŵr i fi.
“Ro’n i isie rhoi’r bennill i bob plentyn fel bo’ nhw’n gallu canu fe achos fi’n cofio canu’r gân yn Ysgol Trimsaran flynyddoedd maith yn ôl.
“O’n i’n dwlu arno fe – mae e jest mor neis.”
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
Sign up for your daily dose of UnWoKe News | Privacy guaranteed | Unsubscribe at any time.







