Cafodd corff Connor Parfitt ei ganfod ar y traeth ger Llanfarian, Ceredigion, y dydd Sul canlynol ar 26 Gorffennaf.
Mi gafodd corff Simon Wilson ei ganfod yn arnofio ar ddŵr agos i’r lan yn Llwyngwril, Gwynedd, ddydd Mawrth 28 Gorffennaf – wythnos ers i’r ddau ddiflannu.
Dangosodd archwiliadau post mortem fod Connor Parfitt wedi marw o hypothermia yn sgil bod mewn dŵr ar ôl cyfnod o ymprydio, a bod Simon Wilson wedi boddi.
Dywedodd y Crwner Kate Robertson ei bod hi’n bosib bod y ddau ar goll ar y môr o ganlyniad i ddifrod i’w caiacau.
Dywedodd wrth deulu Simon Wilson, oedd yn y gwrandawiad, nad oedd hi’n “gallu dychmygu pa mor anodd oedd hi tra bod y chwilio yn digwydd”.
“Does dim geiriau’n gallu mynegi’n ddigonol yr hyn aethoch drwyddo.
“Mi ddywedaf yr un peth wrth deulu Connor, rwy’n cydymdeimlo’n ddiffuant gyda’r ddau ohonoch.”
Cofnododd hi mai damweiniol oedd y marwolaethau yn ei chasgliad.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Sign up for your daily dose of UnWoKe News | Privacy guaranteed | Unsubscribe at any time.





