Dywedodd Ms Shillabeer ei bod yn “fraint enfawr” cael gwasanaethu fel prif weithredwr y bwrdd iechyd, a’i bod yn “falch o’r hyn roedd cydweithwyr ar draws y sefydliad wedi’i gyflawni yn ystod cyfnod heriol iawn”.
Dywedodd ei bod wedi gweld “ymroddiad staff i gleifion, teuluoedd a chymunedau gogledd Cymru” drosti ei hun.
Ychwanegodd fod y cyfle i ddod yn brif weithredwr Ymddiriedolaeth GIG Lancashire a De Cumbria yn “gam cyffrous nesaf” yn ei gyrfa, ond na fyddai’n hawdd gadael Betsi Cadwaladr a’r bobl roedd wedi gweithio gyda nhw.
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Darren Millar, fod angen “prif weithredwr cymwys” ar y bwrdd iechyd a oedd yn gallu “mynd i’r afael â methiannau’r GIG yng ngogledd Cymru a gwella perfformiad gwael”.
“Yn anffodus, nid oedd Carol Shillabeer yn gallu gwneud y gwaith hwnnw,” meddai.
Ychwanegodd ei fod yn “dymuno’r gorau iddi ar gyfer y dyfodol” ac yn edrych ymlaen at ymgysylltu’n gadarnhaol â’i holynydd er mwyn sicrhau gwasanaethau iechyd gwell i bobl y rhanbarth.
Bydd Ms Shillabeer yn parhau yn ei swydd fel prif weithredwr Betsi Cadwaladr tan iddi ymuno â’i sefydliad newydd, a bydd y bwrdd iechyd yn cyhoeddi trefniadau arweinyddiaeth dros dro a thymor hwy maes o law.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Sign up for your daily dose of UnWoKe News | Privacy guaranteed | Unsubscribe at any time.





