Yn ystod gwrandawiad cwest llawn yng Nghaernarfon, clywodd y llys fod mam Sonny, Eve Taylor, wedi cael ei derbyn i uned famolaeth Ysbyty Gwynedd ar ôl i’w dyfroedd dorri’n gynnar, pan oedd 36 wythnos yn feichiog.
Dangosodd y monitro cychwynnol fod y fam a’r babi yn iach, a rhoddwyd gwrthfiotigau rhag ofn bod haint.
Clywodd y cwest fod disgwyl monitro’r fam eto am 22:00 y noson honno, ond ei bod yn cysgu ac i fydwraig benderfynu peidio â’i deffro.
Mewn datganiad a ddarllenwyd yn y gwrandawiad, dywedodd y fam iddi ddeffro tua 01:00.
“Rwy’n cofio teimlo ofn dwys ar ôl deffro,” meddai.
“Roedd gen i deimlad greddfol bod rhywbeth o’i le a bod angen help arna i.”
Dywedodd wrth fydwraig nad oedd yn ymddangos bod ei babi’n symud fel arfer.
Darganfyddodd y tîm mamolaeth fod curiad calon y babi yn isel iawn, a phenderfynwyd cynnal toriad Cesaraidd brys.
“Roedd popeth fel petai’n digwydd ar frys ac allan o reolaeth, ac roeddwn i’n teimlo bod y staff mewn panig heb fawr o drefn.
“Roeddwn i’n teimlo’n ofnus ac ar fy mhen fy hun.”
Derbyniodd yr ysbyty fod symud y fam i’r ward esgor yn hytrach nag yn syth i theatr lawdriniaeth wedi arwain at oedi pellach cyn geni’r babi.
Dywedodd Eve Taylor fod “panig” wedi bod, gyda staff yn dadlau â’i gilydd.
Ganwyd ei mab mewn “cyflwr gwael” ychydig ar ôl 02:00 y bore.
Dywedwyd wrthi ei fod yn wael iawn a’i bod yn bosibl ei fod wedi dioddef anaf i’r ymennydd.
Cafodd ei drosglwyddo i uned gofal arbennig babanod Ysbyty Glan Clwyd, ond er gwaethaf derbyn gofal dwys, bu farw dridiau’n ddiweddarach, ar 3 Hydref 2022.
Clywodd y cwest mai anaf i’r ymennydd oherwydd diffyg ocsigen, ynghyd â haint sepsis, oedd achos ei farwolaeth.
Mewn datganiad, dywedodd Eve Taylor ei bod yn credu y gallai marwolaeth Sonny fod wedi’i hatal.
Dywedodd y byddai’r canlyniad wedi bod yn wahanol pe bai’r monitro wedi digwydd am 22:00 fel y bwriadwyd.
Wrth gyflwyno casgliad naratif, cytunodd Uwch Grwner Gogledd-orllewin Cymru, Kate Robertson, â’r farn honno.
Dywedodd pe bai’r monitro a fethwyd wedi digwydd y noson honno, a phe bai’r fam wedi cael ei hanfon yn syth i gael llawdriniaeth pan godwyd pryderon, byddai’r babi wedi cael ei eni’n gynt.
“Ni fyddai marwolaeth Sonny wedi digwydd bryd hynny,” meddai.
Wrth roi tystiolaeth yn y gwrandawiad, dywedodd aelodau o dimau clinigol y bwrdd iechyd fod yr achos wedi arwain at newidiadau a dysgu eang i dimau mamolaeth ar draws gogledd Cymru, gan gynnwys hyfforddiant, cadw cofnodion a phenderfyniadau ynghylch monitro.
Dywedodd y Pennaeth Nyrsio Bydwreigiaeth, Karen Roberts, fod archwiliad bellach yn dangos bod monitro’n digwydd “100%” o’r amser pan fo angen, ac y byddai mam yn cael ei deffro bob amser os oedd angen.
Daeth i’r amlwg hefyd yn ystod y gwrandawiad nad oedd pryderon am farwolaeth y babi wedi’u cyfeirio at y crwner ar y pryd.
Dywedodd Kate Robertson mai dim ond ar ôl adroddiadau yn y cyfryngau, yn dilyn ymddiheuriad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i rieni’r plentyn am y diffygion, y daeth yr achos i’w sylw.
Dywedodd y crwner ei bod yn “hollol anffodus” bod pedair blynedd wedi mynd heibio cyn cynnal y cwest, ac y gallai fod wedi ailagor “cyfnod hynod drawmatig” i’r rhieni.
Cynigiodd ei “chydymdeimlad diffuant” iddynt, gan ddweud ei bod yn gobeithio y byddai’n help clywed bod y bwrdd iechyd wedi dysgu gwersi ac wedi gwneud newidiadau ers marwolaeth Sonny.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Sign up for your daily dose of UnWoKe News | Privacy guaranteed | Unsubscribe at any time.





