Wrth ymateb i stori’r BBC, dywedodd cyn-brif weithredwr a llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Pedr ap Llwyd y dylid “gwerthuso’r swyddogaeth yn ei chyfanrwydd, gan edrych yn fanwl ar ei rôl strategol, ei chyfrifoldebau statudol, ei swyddogaethau a chwmpas ei phwerau a’i hawdurdod.
“Mae hefyd yn amser priodol i ystyried a yw’r trefniadau llywodraethiant, goruchwylio ac atebolrwydd presennol yn ddigon cadarn, effeithiol a phriodol.
“Dylai’r adolygiad ystyried sut y gall y Comisiynydd gyfrannu fwyaf effeithiol at ddatblygu a chryfhau’r Gymraeg, gan sicrhau bod gan y swyddogaeth yr awdurdod, yr annibyniaeth a’r adnoddau angenrheidiol i gyflawni ei rôl yn effeithiol yn y blynyddoedd i ddod.
“Dylai’r broses felly fod yn un strategol ac edrych tua’r dyfodol, gan sicrhau bod y swyddogaeth yn addas i anghenion a heriau’r Gymraeg yn yr unfed ganrif ar hugain.”
Wrth ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru wrth y BBC: “Sefydlwyd Comisiynydd y Gymraeg gan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, sy’n nodi ei swyddogaethau statudol.
“Mae gan y Comisiynydd rôl bwysig wrth hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg, gan gynnwys rheoleiddio cydymffurfiaeth â dyletswyddau statudol a diogelu hawliau siaradwyr Cymraeg.
“Rydyn ni’n blaenoriaethu penodi Comisiynydd newydd mor fuan ag sy’n bosib.
“Er mwyn sicrhau hynny, bydd angen gwneud y penodiad o fewn y fframwaith presennol.
“Rydyn ni’n bwriadu hysbysebu’r swydd cyn y Nadolig a chyhoeddi’r penodiad ym mis Mai 2027.”
Sign up for your daily dose of UnWoKe News | Privacy guaranteed | Unsubscribe at any time.





