Yn ystod y gwrandawiad fe ddywedodd swyddfa’r crwner fod yr heddlu wedi ymateb i’r digwyddiad yn dilyn adroddiad am wrthdrawiad car.
“Daeth i’r amlwg i’r parafeddygon fu’n ymateb i’r digwyddiad fod gyrrwr y car, Eleanor Barnfield, wedi cael ei thrywanu yn ei brest.”
Clywodd y cwest iddi gael ei chludo i’r ysbyty ond bu farw yno yn ddiweddarach.
Fe gadarnhaodd y crwner Rachel Knight y byddai’r cwest nawr yn cael ei ohirio tra bod yr ymchwiliad troseddol yn parhau.
Mewn teyrnged yn fuan wedi ei marwolaeth, dywedodd teulu Ms Barnfield mai hi oedd “y person mwyaf caredig, mwyaf cariadus a mwyaf dewr yn y byd”.
“Hi oedd popeth i ni, a bydd ei theulu a’i ffrindiau yn ei charu ac yn ei cholli’n fawr am byth. Hi oedd ein craig.”
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Sign up for your daily dose of UnWoKe News | Privacy guaranteed | Unsubscribe at any time.





