bwriad-i-benodi-comisiynydd-y-gymraeg-newydd-erbyn-diwedd-mai-2027
Home / Wales / Bwriad i benodi Comisiynydd y Gymraeg newydd erbyn diwedd Mai 2027

Bwriad i benodi Comisiynydd y Gymraeg newydd erbyn diwedd Mai 2027

Bwriad i benodi Comisiynydd y Gymraeg newydd erbyn diwedd Mai 2027


Dywedodd Anna Brychan, Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, mewn llythyr at bwyllgor diwylliant y Senedd: “Yn dilyn ymddiswyddiad Efa Gruffudd Jones, rydym yn dechrau’r broses cynllunio ar gyfer penodi Comisiynydd y Gymraeg newydd.

“Fy mwriad yw hysbysebu am Gomisiynydd newydd cyn y Nadolig….

“Yn ddiweddarach yn y broses, gwahoddir y pwyllgor i graffu’r ymgeisydd a ffefrir cyn cadarnhau’r penodiad.

“Os bydd y pwyllgor yn penderfynu manteisio ar y cynnig hwn, rydym yn disgwyl y gallai hynny ddigwydd ym mis Ebrill / Mai gyda’r bwriad o gyhoeddi’r penodiad ym mis Mai 2027.”

Fis diwethaf yn y Senedd wrth holi Anna Brychan yn y Senedd, dywedodd y Ceidwadwr Paul Davies: “Hoffwn gofnodi fy niolch i Efa Gruffudd Jones am ei gwaith fel Comisiynydd y Gymraeg.

“Mae hi wedi bod yn eiriolwr cadarn dros yr iaith Gymraeg, a dwi’n dymuno’n dda iddi ar gyfer y dyfodol.”

Atebodd y gweinidog: “Hoffwn i ategu fy niolch innau hefyd i Gomisiynydd y Gymraeg am ei gwaith.”

Sign up for your daily dose of UnWoKe News | Privacy guaranteed | Unsubscribe at any time.

Tagged:
0 0 votes
Article Rating
Subscribe
Notify of
0 Comments
Oldest
Newest Most Voted
Secret Link
0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x