Mae Gwawr wedi cymryd rhan mewn 15 rali yn barod eleni ac mae wedi’i hyfforddi yn grefft o fod yn gyd-yrrwr ers iddi fod yn 18 oed.
Beth felly yw ei gwaith i fel cyd-yrrwr?
“I gyd ni’n trio ei wneud yw disgrifio’r hewl y gorau ni’n gallu ar gyfer y gyrrwr.
“Ni’n disgrifio ongl y cornel, so nine left yw cornel sgwâr 90 degrees.
“Yna yn Stage Rallying bydden nhw’n dweud ‘Crest’ a ‘Tightens‘ sy’n golygu fod y gornel yn tynhau a phethau fel hynny.”
Ond mae ‘na dipyn o waith cynllunio cyn unrhyw ras a does gan Gwawr ddim llawer o amser i ddod i adnabod y cwrs na chwaith baratoi ei nodiadau.
“Gyda ralis y nos, dwi’n cael y map tua awr cyn i ni fynd, felly dwi’n darllen yn ddall, ni’n cael y route awr cyn hynny a dwi’n plotio fe ar y map ac yn ei ddarllen o wrth i ni fynd wedyn.”
Dyma un o brif gyfrifoldebau Gwawr fel cyd-yrrwr, a gan ystyried y cyflymder mae’r ceir ralis yn mynd mae diogelwch pawb yn y car yn bwysicach na dim.
“Mae’n bwysig cael e’n iawn oherwydd y cyflymder. Mae pethau’n digwydd ambell waith ond dwi’n lwcus iawn bod fi wedi cael addysg dda a ni ond ‘di cael un crash o’r blaen.”
Roedd Gwawr yn prysur ganmol Eurig ‘Woosh’ Davies hefyd am ei dysgu i blotio map.
“Highlight y nosweth yw cael y map a gweld yr ardaloedd. Ni’n mynd ledled Cymru a dwi’n gweld e mor ddiddorol sut mae ardaloedd yn newid o’r de i’r gogledd ac o ran llwybrau ffermydd ac ati,” meddai.
Sign up for your daily dose of UnWoKe News | Privacy guaranteed | Unsubscribe at any time.







