karen-elli:-o-chwarae-heini-i-addurno-tai
Home / Wales / Karen Elli: O chwarae Heini i addurno tai

Karen Elli: O chwarae Heini i addurno tai

Karen Elli: O chwarae Heini i addurno tai


Karen Elli fel HeiniFfynhonnell y llun, Karen Elli

Disgrifiad o’r llun,

Karen Elli

GanAngharad Rhys

ITV Cymru Fyw

Mae Karen Elli wedi chwarae cymeriad Heini ers bron i ddau ddegawd gyda sawl cenhedlaeth o gynulleidfa Cyw yn gyfarwydd â’i hwyneb a’i thracsiwt melfed pinc.

Ond ers i’r cymeriad ddiflannu oddi ar arlyw S4C yn 2022, mae Karen wedi bod yn gweithio fel hyfforddwr ffitrwydd ac yn cynllunio tai yn y cyfamser.

Gyda Heini’n rhyddhau cyfres newydd o fideos i annog plant a rhieni i gadw’n heini ar sianel YouTube Dewin a Doti y Mudiad Meithrin, bu Cymru Fyw yn siarad gyda’r actores, sy’n wreiddiol o Gaergybi ond yn byw yn y de-ddwyrain erbyn hyn, am beth sy’n ei hysbrydoli.

Mae lle arbennig gan Heini yn ei chalon, meddai’r actores, yn enwedig wrth i’r ifanc droi fwyfwy at sgriniau: “Dw i mor awyddus i gael plant i symud a phob dim. Achos dyddiau yma, ti’n gweld plant bach ar dabledi o hyd.

“Pan o’n ni’n blant oeddet ti just yn mynd mas a ‘neud beth bynnag. Nawr mae gymaint o barriers i blant a does neb yn cael y rhyddid i ‘neud beth oedden nhw’n gallu ‘neud o’r blaen.

“Felly mae ‘neud rhywbeth yn y tŷ ble mae plant yn gallu codi a symud a chael hwyl gyda fe, a hynny drwy gân yn wych.

“Maen nhw jyst yn gwenu, mae’n cymryd nhw i fyd bach newydd a so nhw’n sylweddoli rili bod nhw yn ymarfer corff hefyd. Maen nhw jyst yn meddwl bod nhw’n ‘neud rhywbeth a chael hwyl wrth ‘neud e. Mae’n lyfli.”

Karen Elli Ffynhonnell y llun, Karen Elli

Disgrifiad o’r llun,

Karen Elli

I gadw’n heini yn bersonol mae Karen, sy’ wedi cymhwyso fel hyfforddwraig ffitrwydd, yn arwain dosbarthiau o’r enw Blood, Sweat and Tyres ac hefyd yn codi pwysau.

Meddai: “Dwi’n ‘neud ambell i sesiwn PT ond dwi’n ‘neud gwaith arall hefyd. Dwi’n Jack of all trades.”

Gyda Karen hefyd yn cynllunio tai a swyddfeydd, mae’r amrywiaeth yn ei siwtio hi’n dda: “Dwi wastad yn joio beth dwi’n ‘neud. Dwi wastad yn dweud wrth fy mhlant, ‘Mae’n rhaid i chi ‘neud be’ chi’n rili joio ‘neud’.

“Sym ots beth yw e, jest gwireddwch eich breuddwydion a gwnewch beth chi’n teimlo’n angerddol amdano. Achos wedyn ‘ny, bydd bywyd lot yn haws a fyddwch chi’n cael lot mwy o foddhad mas o fe.”

Ysbrydoliaeth

Bu cymeriad Heini yn ran amlwg o wasanaeth Cyw ar S4C am flynyddoedd gyda Karen yn ymweld ag ysgolion ar draws Cymru yn annog plant i symud ac i ddefnyddio eu dychymyg tra’n gwneud hynny.

Mae’r fideos newydd ar sianel Dewin a Doti yn mynd i fydoedd gwahanol ac yn cynnwys cân am bêl-droed.

Meddai Karen: “Ti jyst moyn i blant gael rhyw reolaeth o symud a mwynhau a defnyddio’u dychymyg nhw yn lle eistedd lawr.

“Dw i’n cofio mynd i un ysgol yn Sir Benfro i ganu ac i symud ac oedd un bachgen bach tua naw mlwydd oed wedi dweud, ‘Oh Miss, that was even better than playing with my Xbox’.

“Mae hwnna wedi sticio gyda fi. Roedd ei athrawon e yn dweud, iddo fe i ddweud hwnna ac i ‘neud ymarfer corff yn y dosbarth a joio fe, oedd hynny’n amazing.”

Gyda Heini wedi diflannu o wasanaeth Cyw, mae Karen yn dweud fod llawer o bobl dal i holi ble mae’r cymeriad: “Mae wedi creu effaith mawr rili ac mae’n neis bod y Mudiad Meithrin yn ‘neud hwn nawr.

“O leia’ mae y genhedlaeth newydd yn dod mewn ac mae’n lyfli achos mae’r rhieni hefyd yn ymuno mewn.”

Karen ElliFfynhonnell y llun, Karen Elli

‘Byth rhy hen’

Prif gyngor Karen i rieni sy’n ei gweld hi’n anodd i gael eu plant nhw i symud yw i ymuno gyda nhw: “Pan o’n i’n mynd i’r ysgolion weithiau ac oedd rhai o’r athrawon yn ymuno mewn, roedd y plant wrth eu boddau.

“A pryd o’n i’n mynd i ganolfannau hamdden roedd rhai o’r rhieni yn ymuno ac oedd y plant wrth eu boddau yn ‘neud rhywbeth gyda’u rhieni nhw.

“Hwnna yw top tip fi. Ti byth yn rhy hen.”

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy NowtsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb

Sign up for your daily dose of UnWoKe News | Privacy guaranteed | Unsubscribe at any time.

Tagged:
0 0 votes
Article Rating
Subscribe
Notify of
0 Comments
Oldest
Newest Most Voted
Secret Link
0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x