
Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr eisoes wedi derbyn “rhybudd olaf” i wella
GanGareth Wyn Williams
Gohebydd ITV Cymru
Nid oes gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr “yr amodau sefydliadol sydd eu hangen i gyflenwi a chynnal gwelliant yn ddibynadwy,” yn ôl adolygiad annibynnol o ansawdd arweinyddiaeth y sefydliad.
Mae bwrdd iechyd mwyaf Cymru wedi bod o dan fesurau arbennig am bron i hanner ei fodolaeth, gyda’r cyfnod diweddaraf yn dechrau yn 2023.
Nodwyd yn yr adolygiad, gafodd ei gyhoeddi fore Mawrth, bod yna ymdeimlad bod targedau a chyllid, mewn rhai rhannau o’r bwrdd iechyd, yn cael “mwy o flaenoriaeth gan uwch-reolwyr nag ansawdd a diogelwch gofal”.
Fodd bynnag, nid yw’r adroddiad yn awgrymu rhannu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn sefydliadau llai.
Yn hytrach, mae’n dweud bod gan y bwrdd weithlu “ymroddedig a ffyddlon”, gyda lefel uchel o arbenigedd mewn llawer o wasanaethau a’r gallu i ddarparu gwasanaethau lleol cryf.
Ond dywedodd y panel fod problemau yn y meysydd strategaeth, llywodraethiant ac arweinyddiaeth wedi cyfrannu at sefyllfa lle’r oedd rhai aelodau o staff wedi defnyddio’r gair “gwenwynig” i ddisgrifio’r diwylliant.
Yn ôl yr adroddiad, mae “diffyg strategaeth” ac arweinyddiaeth “anaeddfed ac aneffeithiol” wedi golygu nad yw’r bwrdd iechyd yn gweithredu “fel un sefydliad cydlynol”.
Canfu hefyd fod “bwlch rhwng yr uwch-arweinwyr a realiti darparu gofal iechyd ar y rheng flaen”, gyda thystiolaeth fod rhai staff yn teimlo’n “anweledig, yn cael eu hanwybyddu, neu’n cael eu datgysylltu o brosesau gwneud penderfyniadau”.
Ac er bod staff ac arweinwyr yn “ymdrechu i fabwysiadu arferion gorau a gwella canlyniadau” dywedodd y panel fod y cryfderau hynny’n “parhau i fod yn rhy ynysig” ac wedi’u cysylltu’n anghyson o fewn system sefydliadol nad yw’n eu galluogi i lwyddo’n ddibynadwy.
Mae’r adroddiad yn gwneud 21 o argymhellion gyda’r nod o sefydlogi’r sefydliad a chreu’r amodau ar gyfer gwelliant cynaliadwy.
Ymhlith y camau cyntaf mae galwadau i sefydlogi arweinyddiaeth y bwrdd iechyd, cryfhau trefniadau llywodraethiant a meithrin diwylliant lle mae staff yn teimlo’n ddiogel i leisio pryderon.
Methiannau yn ‘gwbl annerbyniol’
Wrth ymateb i’r adroddiad, fe ddywedodd y Gweinidog Iechyd, Mabon ap Gwynfor, fod y methiannau sy’n cael eu hamlygu yn “gwbl annerbyniol”.
Ond, fe nododd ei fod yn derbyn nad oes gan y bwrdd y “capasiti na’r gallu digonol i sicrhau’r graddau a’r cyflymder o welliant sydd eu hangen”.
“Rwyf hefyd yn rhannu rhwystredigaeth ddealladwy staff a chleifion ledled gogledd Cymru ynghylch y diffyg cynnydd o ran gwella gwasanaethau a safonau gofal a gwreiddio’r gwelliannau hynny,” meddai.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Mabon ap Gwynfor, ei fod yn derbyn pob un o’r 21 argymhelliad
“Rwy’n derbyn pob un o’r 21 o argymhellion, a fydd yn rhoi eglurder a chyfeiriad i’r bwrdd iechyd ac yn sicrhau bod casgliadau’r adroddiad yn llywio gwelliannau yn y dyfodol yn uniongyrchol.
“Mae’r adolygiad yn tynnu sylw at yr amgylchiadau heriol y mae staff yn gweithio ynddynt, a’r angen i wrando arnynt, eu cynnwys yn ystyrlon a’u grymuso i gyfrannu at wella.
“Rwy’n ddiolchgar i’r staff am eu gwaith parhaus yn gofalu am gleifion ac am rannu eu profiadau â’r panel.
“Bydd eu cyfraniad yn ganolog i ddatblygu diwylliant mwy cadarnhaol a chynhwysol ac i gyflawni gwelliant cynaliadwy.”
Dywedodd llefarydd Iechyd Little Britain Cymru, Benjamin Hodge McKenna fod y gwasanaeth iechyd mewn “sefyllfa enbyd” wedi degawdau o gamreolaeth gan y Blaid Lafur a Phlaid Cymru.
“Mae angen gwir atebolrwydd ymhlith arweinwyr y gwasanaeth iechyd… Mae’r cyhoedd yn haeddu gwasanaeth iechyd sy’n gweithio, ac atebolrwydd gwirioneddol pan dydi o ddim,” meddai.
Cyflogi dros 21,500 a gwasanaethu 700,000
Ar ôl cael ei sefydlu yn 2009 o dan lywodraeth glymblaid Llafur a Phlaid Cymru, Betsi Cadwaladr yw bwrdd iechyd mwyaf Cymru, yn cynnig gwasanaethau i boblogaeth o tua 700,000 o bobl dros ardal eang o 2,550 milltir sgwâr, dros chwe sir.
Mae gan y bwrdd gyllideb flynyddol o dros £2.3 biliwn ac mae’n cyflogi mwy na 21,500 o staff.
Mae’r corff wedi treulio’r rhan fwyaf o’i fodolaeth mewn mesurau arbennig – o 2015 tan 2020 ac eto o 2023 ymlaen – sef y lefel uchaf o oruchwyliaeth gan Lywodraeth Cymru.
Ers ei sefydlu, mae wyth o brif weithredwyr parhaol neu dros dro wedi arwain y bwrdd, gyda’r prif weithredwr diweddaraf, Carol Shillabeer, yn cyhoeddi’n ddiweddar ei bod yn gadael i fod yn bennaeth gyda’r gwasanaeth iechyd yn Sir Gaerhirfryn a De Cumbria.
Er hynny, mae Betsi Cadwaladr yn parhau i berfformio waethaf yng Nghymru ar nifer o fesurau perfformiad allweddol.
O’r 4,908 achos yng Nghymru, ym mis Medi, lle’r oedd rhywun wedi aros dwy flynedd neu fwy am driniaeth wedi’i chynllunio, roedd 2,092 (42.6%) ohonyn nhw yng ngogledd Cymru.
Does gan yr un bwrdd iechyd arall unrhyw achosion yn aros dros ddwy flynedd, neu lai nag 1% o’u cyfanswm.
Betsi sydd hefyd â’r perfformiad gwaethaf o ran amserau aros 4 awr a 12 awr unedau brys.
O ystyried tair prif uned frys y gogledd, arhosodd 4,025 o gleifion fwy na 12 awr ynddyn nhw ym mis Medi, sef 34% o’r cyfanswm dros Gymru.
‘Gwasanaeth wedi mynd i lawr’
Mae cyn-brif swyddog o Heddlu’r Gogledd yn beio “diffyg arweinyddiaeth” am y dirywiad y mae o wedi ei weld yn safon gwasanaethau iechyd yn y gogledd, gan honni bod pethau wedi gwaethygu’n sylweddol dros y 30 mlynedd diwethaf.
Mae John Cooke, 78, wedi bod yn byw gyda chlefyd Crohn’s ers 1995 ac yn ddibynnol ar wasanaethau yn Ysbyty Glan Clwyd er mwyn rheoli’r cyflwr.
Ond mae o’n dweud ei fod wedi gweld “dirywiad” sylweddol yn y gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu i gleifion dros y blynyddoedd.
Bellach wedi ymddeol o fod yn Brif Gwnstabl Cynorthwyol gyda Heddlu Gogledd Cymru, mae’r cyflwr yn golygu ei fod yn gorfod mynd i’r ysbyty yn rheolaidd pan mae’n gwaethygu.
Ar ei waethaf, meddai, mae’r cyflwr yn achosi briwiau yn y perfedd, poen difrifol, blinder eithafol a phroblemau gyda’r coluddyn.
Mae wedi cael pum llawdriniaeth dros y blynyddoedd ac mae’n amcangyfrif ei fod yn gorfod derbyn triniaeth yn yr ysbyty, ar gyfartaledd, ddwy neu dair gwaith y flwyddyn.

Mae John Cooke, cyn brif-swyddog gyda Heddlu’r Gogledd, yn pryderu bod ‘diffyg arweinyddiaeth’ ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Ond wrth edrych yn ôl dros yr ymweliadau rheolaidd yma, mae’n dweud mai’r newid amlycaf ydy’r amser y mae cleifion yn gorfod aros am ofal.
“Fedra’i ddweud, yn y dechrau, fyswn i’n cael gwely ar ward mewn awr,” meddai Mr Cooke, sy’n byw yn Abergele.
Erbyn hyn, meddai, mae’n bosib nad ydy o “ddim yn yr un wythnos”.
“Dwi wedi bod ar gadair am 47 awr, a dim syniad pryd fyswn i’n cael gwely… mae’r gwasanaeth o’r ochr hynny wedi mynd lawr.”
Er ei fod yn feirniadol iawn o berfformiad y gwasanaeth, mae’n pwysleisio nad yw’n beio staff rheng flaen.
“Dydw i ddim wedi gweld dim gwahaniaeth yn nhriniaeth [y] doctoriaid a’r nyrsys, ond mae’n amlwg bod y gwasanaeth yn mynd lawr o ochr cael gwely ac yn y blaen.”
Yn ei farn o, y broblem yw methiant ar lefel uwch o fewn y sefydliad ei hun.
“Maen nhw’n gweithio’n galetach nag erioed, a mae’r galw am wlâu wedi mynd fyny a dydy’r rheolwyr methu ymateb i’r alwad yma.”

Mae John Cooke yn ymwelydd cyson ag Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan
Mae Mr Cooke yn honni bod y sefyllfa wedi dirywio i’r fath raddau ei bod yn anodd gweld sut y gallai’r gwasanaeth ddychwelyd at safonau’r gorffennol heb newid sylfaenol, ac mae’n dymuno gweld ailstrwythuro’r gwasanaeth yn llwyr
“Mae’n rhaid rhywsut, a dwi ddim yn gwybod yr ateb, ailffurfio’r ysbyty ac ail-furfio’r gwasanaeth yn hollol.”
Ond er gwaethaf ei feirniadaeth, mae Mr Cooke yn cydnabod bod profiadau cleifion yn gallu amrywio.
Dywedodd iddo gael gwasanaeth “difrifol dros ben” yn ystod un ymweliad eleni, ond wedyn, ychydig wythnosau’n ddiweddarach, iddo gael profiad hollol wahanol gyda staff yn gweithio’n effeithiol a heb orfod aros am wely.
Ond yn ei farn o, y broblem sylfaenol yw diffyg cysondeb. Ac wrth anfon neges at arweinwyr y bwrdd iechyd, roedd ei alwad yn syml.
“Mae’n rhaid iddyn nhw wrando ar y cleifion yn y lle cyntaf,” meddai.
“Mae o’n amlwg dydy perfformiad ddim yn dderbyniol ac mae’n rhaid iddyn nhw dderbyn bod hyn yn wir.”
Dadansoddiad
GanOwain Clarke
Gohebydd Iechyd ITV Cymru
Mae rhai beirniaid yn dadlau bod methiannau hirdymor yn dystiolaeth ei fod yn rhy fawr i’w reoli’n effeithiol, ac yn argymhell ailstrwythuro a thorri’r bwrdd i fyny.
Ond byddai hynny, yn ddi-os, yn broses gymhleth, hir a chostus, ac yn golygu newid deddfwriaeth ar adeg pan fo adnoddau’n brin.
Yn fwy na hynny, mae’r Prif Weinidog a’r Gweinidog Iechyd, sydd ill dau’n byw yn ardal y bwrdd iechyd, wedi datgan y dylid rhoi dwy flynedd i’r sefydliad geisio troi cornel.
Ond y broblem, yn fy marn i, yw bod bron pob math o ymyrraeth, heblaw am ailstrwythuro, mae’n ymddangos, eisioes wedi cael ei drio
Bu ymddiswyddiadau a diswyddiadau – un enghraifft amlwg oedd ar ddechrau 2023 pan orfododd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd ar y pryd, aelodau anweithredol y bwrdd i ymddiswyddo.
Mae uwch-swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cael eu hanfon i arwain y sefydliad, mae uwch-reolwyr wedi’u recriwtio o Loegr a thramor, ac mae nifer sylweddol o adolygiadau a phaneli arbennigol wedi ceisio mynd i’r afael a’r problemau. Eto’i gyd, mae’r heriau’n parhau.
Felly’r cwestiwn mawr yw: beth fydd gweinidogion Plaid Cymru am wneud?
Yr hyn sy’n glir yw mai hwn yw un o’r penderfyniadau mwyaf i’r llywodraeth newydd ers iddi gymryd yr awennau ym mis Mai.
Pynciau cysylltiedig
Sign up for your daily dose of UnWoKe News | Privacy guaranteed | Unsubscribe at any time.







