Fe gynhaliwyd Eisteddfod Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru yng Ngheredigion eleni… ac aeth y tlws buddugol ddim yn bell iawn.
Oherwydd wedi diwrnod hir o gystadlu ym Mhafiliwn Bont, CFfI Ceredigion aeth â hi, gyda CFfI Sir Benfro a CFfI Sir Gaerfyrddin yn gydradd ail.
Roedd 800 wedi cystadlu mewn pob math o weithgareddau gan gynnwys cerdd, llefaru, adloniant, ysgrifennu, celf a ffotograffiaeth.
Ac fe wnaeth un cystadleuydd ennill y Dwbl – y Goron a’r Gadair – sydd ond wedi digwydd unwaith o’r blaen yn hanes yr eisteddfod.
Sign up for your daily dose of UnWoKe News | Privacy guaranteed | Unsubscribe at any time.







