Mae dyn 65 oed wedi pledio’n ddieuog i gyhuddiadau o anafu gyda bwriad a chael cyllell yn ei feddiant yn dilyn digwyddiad yng Ngwynedd ym mis Hydref.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i eiddo yn Nhrefor tua 18:00 ar 23 Hydref, yn dilyn adroddiad bod dyn wedi cael anafiadau difrifol.
Ddydd Llun, ymddangosodd Steven Parry, 65, o Hen Ysgol, Trefor, yn Llys y Goron Caernarfon dros linc fideo o Garchar Berwyn.
Mae disgwyl i’r achos llawn ddechrau yn Llys y Goron Caernarfon ar 12 Ebrill 2027.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Sign up for your daily dose of UnWoKe News | Privacy guaranteed | Unsubscribe at any time.







