‘baw-ci-ym-mhobman’-–-sioc-landlord-ar-l-i-denant-adael-‘llanast-llwyr’-mewn-t
Home / Wales / ‘Baw ci ym mhobman’ – Sioc landlord ar l i denant adael ‘llanast llwyr’ mewn t

‘Baw ci ym mhobman’ – Sioc landlord ar l i denant adael ‘llanast llwyr’ mewn t

‘Baw ci ym mhobman’ – Sioc landlord ar l i denant adael ‘llanast llwyr’ mewn t


Gan ei bod hi bellach yn y cam o glirio’r eiddo, mae Isabelle yn dweud ei bod hi’n “lwcus” fel saer a theiliwr ei bod hi’n gallu gwneud llawer o’r gwaith ei hun.

“Rydyn ni wedi clirio popeth allan nawr, felly mae’n gynfas gwag, ond roedd rhaid i ni dynnu mwy allan nag yr oedden ni wedi’i ddisgwyl, fel y lloriau a’r cladin o amgylch y grisiau…

“Roedd llawer mwy o waith i’w wneud nag yr oeddwn i wedi’i ragweld.”

Mae’n diolch i’w theulu am eu cymorth i glirio’r eiddo, ac i’r cyhoedd a’r cyfryngau cymdeithasol am y gefnogaeth “anhygoel” ers iddi rannu lluniau o’r eiddo ar-lein.

Er ei bod yn dweud nad yw hyn wedi dylanwadu ar ei hawydd i rentu yn y dyfodol, mae dweud ei bod bellach yn teimlo’n “fwy gwyliadwrus ac yn fwy gofalus” ynglŷn â’r sefyllfa.

Fe wnaeth ITV Cymru geisio cysylltu gyda’r tenant gan ddefnyddio’r rhif ffôn a gafodd ei ddarparu gan y landlord. Nid yw’r rhif yn bodoli bellach.

Dywedodd Chris Norris, sy’n gyfrifol am bolisi Cymdeithas Landlordiaid Preswyl (NRLA): “Er bod y mwyafrif helaeth o bobl sy’n rhentu yn y sector preifat yn denantiaid cyfrifol, mae achosion fel hyn yn dangos yr effaith ariannol ac emosiynol ar landlordiaid pan fydd pethau’n mynd o chwith.

“Gall rhent heb ei dalu, diffyg cyfathrebu a difrod i eiddo olygu colledion sylweddol i landlordiaid, heb fawr o obaith o gael yr arian hwnnw’n ôl.”

Dywedodd Llywodraeth Cymru: “O dan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, rydym wedi cynhyrchu canllawiau ymarferol i landlordiaid ar adennill meddiant eiddo pan fo deiliad contract wedi torri eu contract meddiannaeth.

“Mae’r canllawiau hyn yn helpu landlordiaid i ddeall eu hawliau, llywio’r broses gyfreithiol a chymryd y camau angenrheidiol i adennill meddiant cyn gynted â phosib o fewn ffiniau’r gyfraith.”

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol .

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Sign up for your daily dose of UnWoKe News | Privacy guaranteed | Unsubscribe at any time.

Tagged:
0 0 votes
Article Rating
Subscribe
Notify of
0 Comments
Oldest
Newest Most Voted
Secret Link
0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x