cai-tomos:-therapydd-yn-helpu-eraill-wedi-cyfnod-mewn-uned-iechyd-meddwl
Home / Wales / Cai Tomos: Therapydd yn helpu eraill wedi cyfnod mewn uned iechyd meddwl

Cai Tomos: Therapydd yn helpu eraill wedi cyfnod mewn uned iechyd meddwl

Cai Tomos: Therapydd yn helpu eraill wedi cyfnod mewn uned iechyd meddwl


Cai TomosFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Disgrifiad o’r llun,

Mae Cai Tomos yn ddawnsiwr, artist ac yn therapydd

GanBryn Jones

ITV Cymru Fyw

Mae dawnsiwr wedi dweud sut y gwnaeth cyfnod mewn unedau iechyd meddwl a gofal dwys yn sgil gorddefnydd alcohol a chyffuriau ei wneud yn berson gwell sydd nawr yn gallu helpu eraill.

Mae Cai Tomos, o ardal Caersws, Powys, bellach yn therapydd sy’n defnyddio dawns i helpu pobl gyda bob math o gyflyrau iechyd, gan gynnwys gor-bryder ac iselder.

Ac mae’n gallu tynnu ar ei brofiad ei hun o fynd drwy gyfnod anodd pan oedd o’n ddifrifol wael yn ei 20au, gan dreulio pum mis yn yr ysbyty.

“Roedd hi’n amser anodd yn fy 20au dwi’n meddwl, a pwy a ŵyr yn union pam,” meddai ar raglen Beti a’i Phobol ar ITV Radio Cymru.

“Ond i lot o bobl, mae cyffuriau ac alcohol yn lleddfu rhywbeth nad oedd dim byd arall yn gallu.

“Ac mi weithiodd o am gyfnod nes bod fi’n sylweddoli bod yna fwy o broblem yn y ffordd ro’n i’n defnyddio’r alcohol a cyffuriau.”

Tŷ’r Cyffredin yn ‘lle chwarae’ i Cai Tomos

Gwrandewch ar Cai yn trafod ei fagwraeth ar Beti a’i Phobol

Roedd yn “falch” o gael treulio cyfnod yn uned iechyd meddwl Hergest, Ysbyty Gwynedd, Bangor, gan ei fod yn teimlo’n fwy diogel yno a gan fod ei deulu yn gwybod ei fod yn saff.

Er ei fod yn brofiad “trawmatig mewn lot o ffyrdd” roedd hefyd yn “brofiad pwysig” gyda’r celfyddydau yn ei helpu i wella.

Wedi i’w fam ddod â deunydd gwneud gwaith celf iddo roedd yn peintio bob dydd ac yn dawnsio tua diwedd ei gyfnod yno hefyd.

“Roedd bob math o bobl efo pob math o broblemau yno – ond roedden ni i gyd yn ffeindio’n ffyrdd, dwi’n siŵr, i drio [gwella],” meddai. “Roedd rhai pobl yn gadael, a rhai pobl yn cael yn well, rhai pobl yn stuck yn y system yn mynd rownd a rownd.

“Dwi’n meddwl roedd o’n brofiad mor fawr wnaeth o fy newid i, ac mae o wedi fy newid i mewn ffordd sylweddol dwi’n meddwl – i’r gorau.”

‘Dwi’n mynd i fod yn olreit rŵan’

Fe dreuliodd gyfnod byr yn yr uned iechyd meddwl yn Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, hefyd wedi iddo fod yn ddifrifol wael yn Ysbyty Athrofaol Cymru ac yn anymwybodol oherwydd effaith cyffuriau ac alcohol.

Pan ddeffrodd wedi rhai dyddiau yn yr uned gofal dwys, fe sylweddolodd bod ffordd wahanol i fyw ei fywyd.

“Dwi’n cofio bod yn nhŷ fy mrawd ar ôl i mi ddod allan o Whitchurch, efo Mam, a dwi’n cofio rhyw deimlad fel bod golau wedi mynd ymlaen, a dyma fi’n troi at Mam a dweud, ‘dwi’n mynd i fod yn olreit rŵan, mae wedi gorffen’.

“Roedden ni’n dau yn crïo. A dwi ddim yn gwybod beth oedd hwnna – roedd o tua 10 eiliad o rywbeth alla i mond disgrifio fel rhyw fath o ras. Dwi ddim yn gwybod, ond pan dwi’n sôn amdano rŵan dwi’n teimlo tingl drosof i.”

Ers hynny mae Mr Tomos, sy’n sobr ers dros 20 mlynedd, wedi hyfforddi fel therapydd ac wedi gweithio yn helpu eraill, gan gynnwys mewn ysbyty yn Llundain gyda dynion hefo seicosis.

‘Ryda ni gyd yn gallu bod yn sâl’

Mae’n dweud bod ei gyfnod fel claf wedi ei helpu.

“Pan nes i fynd nôl i mewn i’r ysbyty, ond fel rhywun oedd yn helpu, roedd hi’n amser rhyfedd ac yn anodd achos nes i deimlo’r ffin o’r ddwy ochr mewn un ffordd.

“Ond i fi does ‘na ddim dwy ochr… ‘da ni gyd yn gallu bod yn sâl, ‘da ni gyd yn gallu torri lawr.”

Yn y rhaglen mae Mr Tomos, sy’n fab i’r diweddar Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, yn trafod ei fagwraeth yn ardal Dolgellau a’i gyfnod yn byw yn Llundain cyn iddo ddychwelyd i Gymru.

Mae o hefyd yn trafod ei waith fel dawnsiwr proffesiynol a therapydd a’i ddiddordeb mewn defnyddio celf a dawns fel rhan o’r broses therapiwtig i bobl gyda chanser, dementia a phroblemau iechyd meddwl.

Bydd y cyflweliad llawn ar Beti a’i Phobol am 18:00 ar 12 Tachwedd ar ITV Radio Cymru ac ar ITV Sounds.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol .

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol

Sign up for your daily dose of UnWoKe News | Privacy guaranteed | Unsubscribe at any time.

Tagged:
0 0 votes
Article Rating
Subscribe
Notify of
0 Comments
Oldest
Newest Most Voted
Secret Link
0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x