‘da-ni’n-cael-ein-gadael-ar-l’-–-y-dref-glan-mr-gyda-signal-ffn-gwaethaf-y-du
Home / Wales / ‘Da ni’n cael ein gadael ar l’ – y dref glan mr gyda signal ffn gwaethaf y DU

‘Da ni’n cael ein gadael ar l’ – y dref glan mr gyda signal ffn gwaethaf y DU

‘Da ni’n cael ein gadael ar l’ – y dref glan mr gyda signal ffn gwaethaf y DU


Dywedodd Ian Murray, gweinidog yn yr Adran Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon, wrth ddadl yn San Steffan ddydd Mercher bod “gwaith cadarnhaol” yn mynd rhagddo.

“Mae gan BT gynlluniau i uwchraddio wyth mast yn ei etholaeth; bydd dau ohonynt yn cael eu cwblhau eleni, a’r chwech sy’n weddill y flwyddyn nesaf,” meddai.

Cytunodd hefyd i drafodaethau pellach ynglŷn â dyddiad cwblhau 2028 ar gyfer mast newydd sy’n gwasanaethu Dinbych-y-pysgod, er mwyn gweld a oedd unrhyw beth y gallai’r llywodraeth ei wneud “i bwyso am i’r seilwaith gael ei adeiladu’n gyflymach”.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Benfro eu bod yn gweithio gyda phartneriaid i wella cysylltedd ledled Dinbych-y-pysgod, ac eu bod yn ddiweddar wedi gosod pwynt Wi-Fi cyhoeddus ym maes parcio aml-lawr y dref “er mwyn helpu modurwyr i wneud taliadau heb arian parod”.

Dywedodd Vodafone mewn datganiad: “Rydym yn deall y pryderon ynghylch y ddarpariaeth yn Ninbych-y-pysgod ac ar draws Sir Benfro, ac rydym wedi ymrwymo i wella cysylltedd.

“Bydd cynlluniau ar gyfer mast newydd yn helpu i gryfhau darpariaeth 4G a 5G ar gyfer trigolion, busnesau ac ymwelwyr yn yr ardal gyfagos; yn y cyfamser, bydd ein rhaglen fuddsoddi bresennol o £11 biliwn yn y DU yn ymestyn darpariaeth ‘5G Standalone’ i 99% o’r boblogaeth erbyn 2030, ac i 99.96% erbyn 2034.”

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol .

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Sign up for your daily dose of UnWoKe News | Privacy guaranteed | Unsubscribe at any time.

Tagged:
0 0 votes
Article Rating
Subscribe
Notify of
0 Comments
Oldest
Newest Most Voted
Secret Link
0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x